Skip to content ↓

Cartref / Home

This page is currently awaiting content

Croeso / Welcome

Pennaeth / Headmaster: Mr A Davies

Dymunwn estyn croeso i chi a'ch plentyn i wefan Ysgol Llangynnwr. Mae awyrgylch, ethos ac ansawdd dysgu’n holl
bwysig i ni. Ceisiwn bopeth sydd orau mewn addysg gynradd. Amcanwn i’r plant fod yn hapus, caredig, yn driw
i’w gilydd a chael llu o brofiadau cyfoethog fel eu bod yn datblygu yn feddyliol a chymdeithasol. Ystyriwn barch
at eraill ac ymddygiad priodol yn rhinweddau holl bwysig.

Trwy ymdrech daw llwyddiant .
Yma ar lannau’r Afon Tywi, saif ein hysgol ni, Ysgol Gynradd Llangynnwr.
O fewn awyrgylch diogel, goddefol, hapus, teuluol, ddwyieithog; darparwn amgylchfyd
heriol a mentrus lle anogir pob dysgwr i ddatblygu fel unigolyn moesol, parchus,
cydwybodol, iach, hyderus a chreadigol sy’n dyfalbarhau i gymhwyso eu sgiliau amrywiol.
Datblygwn ddinasyddion uchelgeisiol, galluog a gwybodus â gwreiddiau lleol cadarn, sy’n
falch o’u hunaniaeth, yn deall eu rôl yn y byd ac sy’n barod i gyfrannu’n llwyddiannus i
gymdeithas a byd cynaliadwy a thechnolegol sy’n gyson newid.
Ein gwerthoedd:
• Parch ac Ymddiriedaeth
• Lles a Gofal
• Hapusrwydd a Mwynhad
• Gwydnwch a Hyder
• Cymru a Chymreictod
• Cymuned a Chynefin
• Cymryd risg ac Arloesi
• Cefnogaeth a Chydweithio
Hyderwn y bydd y llawlyfr yma'n cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei angen arnoch i ddod i
adnabod yr ysgol. Os bydd angen unrhyw ganllaw pellach, cysylltwch â ni.

 

We wish to extend a welcome to you and your child to Ysgol Llangynnwr. Atmosphere, ethos and quality of learning are all important to us. We seek all that is best in primary education. We aim for the children to be happy, kind, true to each other and to have many rich experiences so that they develop mentally and socially. We consider respect for others and appropriate behavior to be very important qualities
‘Trwy ymdrech daw llwyddiant’

Here on the banks of the River Tywi stands Llangunnor Primary School. Within a safe,
tolerant, happy, familial, bilingual atmosphere; we provide a challenging and enterprising
environment where all learners are encouraged to develop as moral, respectful, conscientious, healthy, confident and creative individuals who persevere to apply their variety of skills. We develop ambitious, capable and knowledgeable citizens with strong local roots, who are proud of their identity, understand their role in the world and are ready to contribute successfully to a sustainable and technologically changing society and world.
Our values:
• Respect and Trust
• Wellbeing and Care
• Happiness and Enjoyment
• Resilience and Confidence
• Wales and Welshness
• Community and Habitat
• Take risks and Innovate
• Support and Collaboration

 

We trust that this handbook will contain all the information you will need. If you need any further guidance, please contact us.

  • Ysgol Gynradd Llangynnwr

    Lôn Penymorfa, Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, SA31 2NN

    Phone number: 01267 237 841