Clybiau Allgyrsiol / Extra-curricular Clubs
URDD
Fel aelodau o'r Urdd, caiff ein disgyblion gyfleoedd i gyfrannu mewn gweithgareddau amrywiol megis chwaraeon, crefft, dawns, coginio, clocsio, drama a thipyn mwy! Ceir cyfleoedd amrywiol i gynrychioli Ysgol Llangynnwr mewn cystadleuthau chwaraeon ac Eisteddfodau.
As members of the Urdd, our pupils are given opportunities to participate in various activities such as sport, craft, dance, cooking, drama and much much more! Many represent Ysgol Llangynnwr in various sports competitions and the Eisteddfod.
CLYBIAU CHWARAEON/SPORTS CLUBS
Cynhelir Clybiau Chwaraeon amrywiol i flynyddoedd 1 – 6 wedi ysgol yn ystod hanner tymor cyntaf Tymor yr Hydref a thrwy Dymor yr Haf.
Various Sports Clubs are held after school for years 1 – 6 during the first half-term of Autumn Term and throughout the Summer Term.
Bl 1 & 2 ar nos Fercher tan 4yp
Yrs 1 & 2 on Wednesday, to finish at 4pm
Bl 3, 4, 5 & 6 ar nos Iau i orffen am 4:15yp
Yrs 3, 4, 5 & 6 on Thursday, to finish at 4:15pm
CÔR/CHOIR
Mae disgyblion yr ysgol yn ymuno â’r côr ym mlwyddyn tri. Mae’r côr yn ymarfer yn rheolaidd ar ôl ysgol bob nos Fawrth, ac y mae rhai aelodau o’r staff hefyd yn aelodau o’r cor.
Mae’r côr yn cyfrannu at wasanaethau a chyngherddau amrywiol.
Fel arfer ar Ddydd Gŵyl Dewi mae’r côr yn cael gwahoddiad i ganu yn y dref gan Fenter Iaith Caerfyrddin ynghyd â’r ysgolion lleol eraill. Tymor y Nadolig yw’r tymor prysuraf gan fod y côr fel arfer yn canu o gwmpas y goeden Nadolig ym mharc Llangynnwr pan gaiff y goeden ei goleuo. Cawn gyfle i ddiddanu mewn achlysuron amrywiol yn nhref Caerfyrddin pan ddaw nifer o’r rhieni i gefnogi.
School pupils join the choir in year three. The school choir practise regularly every Tuesday after school and some members of staff are also faithful members.
The choir participates in various services and concerts.
Usually on St David’s Day the choir is invited to sing in Guild Hall along with the other schools that have been invited by “Menter Iaith Caerfyrddin”.
The Christmas term is the busiest term for the choir as they usually sing around the Christmas tree in Llangunnor Park when the lights are switched on. They also entertain in Carmarthen town on different ocassions when many parents usually come to support.